Mae sŵn y clychau'n chwarae Wrth odrau Iesu mawr Ac arogl y pomgranadau I'w clywed ar y llawr; Maddeuant i bechadur Yn effeithio i fwynhad, Er mwyn yr aberth difai A lwyr fodlonai'r Tad. Cofia ddilyn y medelwyr, Plith 'r ysgubau treulia d'oes; Pan fo'r gwres yn fwya' tanbaid, Gwlych dy damaid wrth y groes; Lloffa yn maes yr ysgrythyrau, Lle mae tywysenau addfed llawn, Hael fendithion y cyfmod Sydd yn dyfod trwy yr iawn. Pan oedd Sinai gynt yn danllyd, Ar gyhoeddiad cyfraith Duw, A'r troseddwyr yn ddychrynllyd, Ac yn ammheu a gaent fyw; Yn nirgelwch rym y daran, Codwyd allor wrth ei droed; Ebyrth oedd yn rhagddangosiad O'r aberthiad mwya' erioed. O na b'ai fy mhen yn ddyfroedd, Fel yr wylwn yn ddilai Am fod Seion lu banerog 'Ngwres y dydd yn llwfrhau; Mae llwynogod ynddi'n rhodio, I ddifwyno'r egin grawn, A'r Secena yn ymado O foreu dydd hyd prydnawn. Y mae dyfroedd iachawdwriaeth, A'u rhinweddau mewn parhad; Y mae ynddynt feddyginiaeth Anffaeledig ac yn rhad: Deuwch gleifion codwm Eden I ddefnyddio'r dyfroedd hyn; Ni bydd diwedd byth ar rinwedd Sylwedd mawr Bethesda lyn. A raid i'm sêl oedd farwor tanllyd Unwaith at d'ogoniant gwiw, Caredigrwydd fy ieuenctid Fyn'd yn oerach at fy Nuw? Preswylydd mawr yr uchelderau, Datguddia wedd dy wyneb llon, Nes dyrchafy fy serchiadau Oddiar bethau'r ddaear hon. Deffro, Arglwydd, gwna rymusder, Cofia lŵ'r cyfammod hedd, Gwel dy enw mawr dan orchudd, Tystion sydd yn wael ei gwedd; Dywed air a'i cwyd i fyny, Ti yw'r atgyfodiad mawr, Argraffiadau'th enw newydd Ddisgleirio arnynt fel y wawr. Mi gerdda'n ara' ddyddiau f'oes Dan gysgod haeddiant gwaed y groes, A'r yrfa redaf yr un wedd, Ac wrth ei rhedeg sefyll wnaf, Gwel'd iachawdwriaeth lawn a gaf, Wrth fynd i orphwys yn y bedd.Ann Griffiths 1776-1805
Tôn p.1 [7676D]: gwelir: A raid i'm sêl Cofia ddilyn y medelwyr Mi gerdda'n ara' ddyddiau f'oes O na bai fy mhen yn ddyfroedd Pan oedd Sinai gynt yn danllyd Y mae dyfroedd iachawdwriaeth |
The sound of the bells is playing At the hem of great Jesus And the aroma of the pomegranates Is smelled on the ground; Forgiveness for a sinner Effecting his enjoyment, For the sake of the faultless sacrifice Which completely satisfied the Father. Remember to follow the reapers, Amongst the sheaves spend thy age; When the heat is more fiery, Wet thy morsel at the cross; Glean in the field of the scriptures, Where the ears are fully ripe, The generous blessings of the covenant Are coming through the atonement. When Sinai was formerly fiery, At the publishing of God's law, And the transgressors horrified, And doubting they would get to live; In the secret force of the shield, An altar was raised at its foot; Sacrifices were a foreshadowing Of the greatest sacrifice ever. O that my head were waters, That I might weep unceasingly Because Zion, a bannered host, is In the heat of the day losing heart; The foxes are wandering in her, And spoiling the shoots of grain, And the Shekinah has departed From morning until evening. The waters of salvation are With their merits in perpetuity; They are unfailing Medicine and free: Come ye wounded of the fall of Eden To use these waters; There shall never be any end to the merit Of the great substance of Bethesda lake. Must my zeal which was a fiery coal Once towards thy worthy glory, The lovingness of my youth Go colder towards my God? Thou great resident of the heights, Reveal the countenance of thy cheerful face, Until my affections rise From off the things of this earth. Awake, Lord, make fortitude, Remember the oath of the covenant of peace, See thy great name under a cover, Witnesses who are of a poor condition; Say a word that will raise up, Thou art the great resurrection, Impress thy new, shining Name upon them like the dawn. I will walk slowly the days of my life Under the shadow of the merit of the blood of the cross, And the course I shall run in the same way, And while running it I shall stand, See full salvation I shall, While going to rest in the grave.tr. 2016,18 Richard B Gillion |
The bells are sweetly ringingtr. H A Hodges 1905-76 The Hymns of Ann Griffiths XXVI |